Ymateb gan Dŵr Cymru

Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriad y Pwyllgor ar rwystrau sy’n wynebu cwmnïau bach sy’n adeiladu cartrefi. 

Sylwadau Dŵr Cymru Welsh Water, yr ymgymerydd dŵr a charthffosiaeth statudol sy’n cyflenwi dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr, yw’r rhain. Rydym ym mherchnogaeth Glas Cymru, cwmni un pwrpas, nid-er-rhanddeiliaid. Rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid trwy ddarparu eu dŵr yfed, a chludo eu dŵr gwastraff a delio ag ef mewn ffordd gynaliadwy wedyn. Mae ein gwasanaethau’n hanfodol hefyd i ddatblygiad economaidd cynaliadwy Cymru, ac mae adroddiad annibynnol gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn awgrymu ein bod ni’n cyfrannu rhyw £1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru.

Un o gyfrifoldebau allweddol Dŵr Cymru yw cynorthwyo pob math o ddatblygiad economaidd, gan gynnwys darpariaeth tai newydd. Mae ein record yn dangos ein bod ar flaen y gad yn y diwydiant am ddarparu holl gwmpas y gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cwsmeriaid datblygu, a ni yw’r Cwmni Dŵr sy’n perfformio’r gorau yng Nghymru a Lloegr yn ôl Lefelau Gwasanaethau Datblygwyr WaterUK ers iddynt gael eu cyflwyno yn Ebrill 2015. Mae arolygon annibynnol a gyflawnwyd gyda’n cwsmeriaid datblygu’n cadarnhau ein bod ni’n parhau i wella ansawdd, ymatebolrwydd a gwerth ein gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid, ar lefel o 86%, ac ymddiriedaeth ar lefel o 89%. Rydyn ni’n cynorthwyo mwy na 99% o’r holl dai newydd sy’n destun ceisiadau cynllunio, ac ni fyddai hynny’n bosibl heblaw am ein buddsoddiad uwch nag erioed o £1.7 biliwn yn ystod y cyfnod buddsoddi cyfredol (2015 – 2020).

Darpariaethau Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu ein rôl wrth gynorthwyo gwaith cwsmeriaid datblygu. 

Rydyn ni’n cysylltu tua 7,500 o eiddo newydd â’n rhwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff bob blwyddyn, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi bod ein cwsmeriaid datblygu’n wynebu pob math o sialensiau. Dyna pam ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod ni’n cynnig gwasanaeth sy’n bodloni ac yn rhagori ar eu disgwyliadau, ac rydyn ni’n falch o’r canlyniadau rydym wedi eu cyflawni hyd yn hyn. 

Yn y cyd-destun hwn, mae hi’n bwysig nodi bod darparu seilwaith dŵr a charthffosiaeth newydd i wasanaethu datblygiadau newydd o bob maint yn agored i gystadleuaeth i raddau helaeth, ac mae hynny’n caniatáu i gwsmeriaid ddatblygu ddewis pwy fydd yn gosod eu seilwaith. Wedyn mae cwsmeriaid datblygu’n rhydd i gymharu ein costau ni â chostau eu gosodwr/wyr eu hunain, a phenderfynu pwy y maent am ei ddefnyddio, boed hynny’n ni, yn gontractwr allanol neu’n ddarparydd hunan-osod. Mae ein holl gostau ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid datblygu’n seiliedig ar ddull o weithredu sy’n adlewyrchu’r costau, ac mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn ein gwahardd yn benodol rhag gwneud unrhyw elw am ddarparu unrhyw un o’r gwasanaethau statudol yma.  

Nid yw’r dewis y mae’r cwsmer datblygu’n ei wneud o ran pwy fydd yn gosod y seilwaith newydd yn effeithio dim ar ein ffocws o ran sicrhau bod yr asedau newydd yn cael eu dylunio a’u hadeiladu yn ôl safonau perthnasol y diwydiant. Yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd ar gyfer ein cwsmeriaid, mae hyn yn sicrhau y bydd yr asedau’n para oes, gan atal rhwymedigaethau ariannol cyn pryd i gwsmeriaid sy’n talu biliau yn y dyfodol. Rydyn ni’n hwyluso hyn trwy ddefnyddio rhwymedigaethau contractiol (ariannol) priodol gyda’n cadwyn gyflenwi, neu lle bo’r cwsmer datblygu’n dewis defnyddio eu gosodwr eu hunain, rhoddir gwarant ar waith, a hynny fel rheol ar ffurf bond gan sefydliad ariannol.

Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn pennu gofynion cyfarwyddol o ran sut i fynd ati i godi tâl am seilwaith dŵr a charthffosiaeth mewn perthynas â datblygiadau newydd, ond ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r “Canllawiau Codi Tâl i Ofwat mewn perthynas â Thaliadau Datblygu, Taliadau Cyflenwi Swmp a Thaliadau Mynediad”, mae Ofwat (rheoleiddiwr y diwydiant dŵr) wedi ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r trefniadau ar gyfer codi tâl yn ddiweddar. 

Er mwyn bod yn agored ac yn onest gyda’n cwsmeriaid, rydyn ni bob amser wedi ymarfer dull gweithredu ‘llyfr agored’ lle gall cwsmeriaid datblygu archwilio’n fanwl sut rydyn ni’n mynd ati i bennu’r costau ar gyfer eu datblygiad. Mae mecanweithiau apelio ar gyfer y mwyafrif o’r gweithgareddau hyn ar gael i gwsmeriaid datblygu fel y gall Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr sydd â phwerau helaeth yn y maes yma, ymchwilio, a dod i gasgliad o ran a yw cwmni dŵr yn gweithredu mewn ffordd briodol, ac a ellir cyfiawnhau’r taliadau perthnasol. Er taw ychydig iawn o apelau i Ofwat a gafwyd gan gwsmeriaid datblygu mewn perthynas â Dŵr Cymru, ac mae’r rhain yn dyddio nôl tipyn, nid yw Ofwat erioed wedi dod i’r casgliad bod ein costau wedi bod yn afresymol.

Yn nhermau costau o’r bron, mae Deddf y Diwydiant Ddŵr 1991 yn gosod gofyniad cyfreithiol ar gwsmeriaid datblygu i dalu’r rhan fwyaf o’r taliadau sy’n berthnasol i gwmnïau dŵr o’r bron. Gofynnir am y taliadau hyn i roi pwerau cyfreithiol i ni (er enghraifft i gyflwyno hysbysiad i fynd ar dir i osod prif bibellau dŵr neu garthffosydd newydd ar dir trydydd parti) fel y gallwn gyflawni’r gwaith y mae’r datblygwr wedi ei geisio gennym. Fodd bynnag, dylid nodi bod rhai taliadau’n daladwy ar ôl darparu’r gwasanaeth.

Rydyn ni wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer cwsmeriaid datblygu ar flaen y gad yn y diwydiant, a’u bod yn effeithlon ac yn hollol dryloyw. Rwy’n gobeithio y bydd y dystiolaeth yma’n bwydo eich dealltwriaeth am ein dulliau o weithio gyda chwsmeriaid datblygu a’r gofynion a’r rheoliadau cyfreithiol sy’n bwydo ac yn arwain ein gwaith. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â ni.